Thursday 4 November 2010

Y NEWYDDION,AWST 2010

Y NEWYDDION DIWEDDARAF, AWST 2010

Dosbarthwyd Cylchlythyr Rhif 6 i dros 500 o unigolion a sefydliadau yng Ngorffennaf. Diolch o galon i bawb a fu’n helpu.

Cynhaliodd pob un o’r tri grŵp o wirfoddolwyr eu cyfarfodydd misol olaf cyn y gwyliau ym mis Gorffennaf; a bu’r tri grŵp yn ymweld â thai diddorol yn ogystal â thrafod eu cynnydd o ran ymchwilio i’w tai.

(photo)

Gwirfoddolwyr Gwynedd


Erbyn hyn mae Cyfeillion y Prosiect wedi derbyn manylion y deg digwyddiad rhad ac am ddim a drefnwyd rhwng mis Medi a’r Nadolig. Teithiau tywysedig yw’r rhain gan mwyaf o gwmpas hen dai ledled Gogledd Cymru. Mae’n debyg y bydd cymysgedd o ymweliadau a sgyrsiau yn y Flwyddyn Newydd.

Mae mwy o samplo dendrocronoleg ar y gweill yng Ngwynedd (Arfon / Dwyfor) yn ystod ail hanner Awst; ym mis Medi ym Môn; ym mis Hydref yn Sir Ddinbych ac ym mis Tachwedd yng Ngwynedd (Meirionnydd). Gall ffrindiau neilltuo lle i wylio’r samplo.


(photo)

Gwirfoddolwyr Sir Ddinbych

Cynhelir Dyddiau Cyflwyno ar gyfer gwirfoddolwyr newydd fel a ganlyn:
Archifdy Caernarfon Medi 6
Ynys Môn: 2 ganolfan yn Llangefni Medi 7 a Hydref 5 (boreau)
Archifdy Rhuthun Medi 17
Archifdy Dolgellau Medi 28
Gwnewch gais YN AWR os ydych chi eisiau ymuno â ni’r gaeaf hwn.

Margaret Dunn 01766 890550 datingoldwelshhouses@uwclub.net

No comments:

Post a Comment